Mae meithrin partneriaethau agos, llawn ymddiriedaeth yn hanfodol i ddatblygiad hirdymor SSi.
Mae meithrin partneriaethau agos, llawn ymddiriedaeth yn hanfodol i ddatblygiad hirdymor SSi .
Yn ogystal â chyrff a gefnogir gan y llywodraeth yng Nghymru, rydym yn meithrin perthynas waith agos ag endidau masnachol, sefydliadau gweithwyr a rhwydweithiau entrepreneuraidd i archwilio myrdd o gyfleoedd ledled y byd.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- Datblygu adnoddau Cymraeg pwrpasol ar gyfer aelodau Unite
- Hyrwyddiad dros yr haf ar gyfer ymwelwyr On The Beach i ddysgu Sbaeneg
- Cydweithio â sefydliad Cymry alltud, Global Welsh, i hyrwyddo Cymru
- Gweithio gyda nifer o sefydliadau lleol yn Sri Lanka i ystyried agweddau ar addysg Tamil a Sinhalaidd
Prifysgol Bangor
Bangor yw ein tref enedigol ac mae Prifysgol y ddinas yn fyd-enwog.
Mae rhai o’n staff wedi astudio yno , ac rydym yn gobeithio gweithio gyda’u cynllun interniaeth.
Rydym wastad yn chwilio am y gweithwyr lleol gorau ac mae’r cynllun interniaeth yn ffordd o ddod i gyswllt gyda phobl wirioneddol dalentog.
Global Welsh
Ble bynnag yr ewch chi yn y byd mae Bar Gwyddelig neu grwpiau sydd â chysylltiadau Albanaidd cryf. Mae’r tri Arlywydd Americanaidd diweddaraf wedi arddel eu cysylltiadau Celtaidd gyda’r ddwy wlad hon.
Nid yw Cymru fel petai mor flaengar yn gwerthu ei hun – ac mae Global Welsh yn ceisio gwella’r sefyllfa hon trwy wneud cysylltiadau rhwng Cymry ar wasgar ac adeiladu cymuned fyd-eang. Mae SSi yn cefnogi nod Global Welsh i hybu materion Cymreig ac rydym yn aelod gweithgar o’u rhaglen Connect.
S4C
Mae SSi wedi helpu enwogion i ddysgu Cymraeg ar gyfer eu hymddangosiad ar y sioe deledu Iaith ar Daith. Bu Ruth Jones a Carol Vorderman , Rakie Ayola a Chris Coleman, Katie Owen a Mike Bubbins oll yn defnyddio methodoleg SSi. Bu hyn o gymorth i bawb i fagu hyder yn yr iaith, a gallu ei siarad yn hyderus ar deledu cenedlaethol.
Canolfan Genedlaethol
Mae SSI wedi datblygu partneriaeth agos gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol er mwyn creu nifer o fentrau iaith Gymraeg pwysig:
-
- Modiwl iOS, Android ac ar y we ar gyfer Ceiswyr Lloches / Ffoaduriaid sy’n siarad Arabeg, Pashto a Dari i ddysgu Cymraeg yn uniongyrchol o’u mamiaith
- Cynllun peilot ar gyfer chwech o ddisgyblion 16 i 18 oed, mynychwyr coleg a phrentisiaid i wella eu gallu i siarad Cymraeg yn y gweithle trwy ddefnyddio eu ffonau, gliniaduron neu dabledi
- Cynllun ar gyfer plant Blwyddyn 7 mewn 11 ysgol cyfrwng Saesneg, i gynyddu eu hyder yn y Gymraeg ar eu cyflymder eu hunain ac ar eu dyfeisiau eu hunain
- Cymorth dysgu digidol parhaus i gynlluniau a ddefnyddir mewn dosbarthiadau oedolion