Aran J

Prif Weithredwr
Darganfod mwy

Aran J

Prif Weithredwr

Disgrifiad o’r rôl: Rwy’n cadw llygad ar yr holl elfennau amrywiol byrlymus, yn gweithio gydag arweinwyr tîm i sicrhau bod prosiectau ar y trywydd iawn, yn siarad â phartneriaid posibl ac yn arwain ar fethodoleg.

Cyfnod gyda SSi: Rwy’n un o gyd-sylfaenwyr y cwmni – fe wnaethom ni ffurfio fel cwmni yn 2010 ar ôl lansio ein cwrs cyntaf yn 2009. Rhyddhawyd y cwrs cyntaf 4 diwrnod cyn i fy merch gael ei geni, ac wrth edrych yn ôl, doedd hynny ddim yr amseru perffaith!

Ieithoedd: Rwy’n siarad Cymraeg a Saesneg, a gallaf gynnal sgyrsiau pleserus (gyda digon o gamgymeriadau difyr) mewn Sbaeneg a Ffrangeg. Mae gen i dipyn o Eidaleg, Arabeg ac Almaeneg, ond dim digon i gynnal sgwrs. Gallaf hefyd ddweud ‘Rydw i eisiau gwylio pêl-droed ar y penwythnos’ mewn Manaweg, brawddeg a fyddai’n fwy defnyddiol pe bawn i’n hoffi pêl-droed.

Ffaith ddiddorol amdanaf: rydw i wedi nofio gyda dolffiniaid yn Seland Newydd, wedi marchogaeth ceffyl trwy yr o sebras yn Zimbabwe, wedi gyrru o Seattle i Efrog Newydd, wedi byw yn yr Almaen, Portiwgal, Sri Lanka, Malaysia, Zimbabwe a Dubai, roeddwn yn arfer bod yn berchen ar beithon brenhinol o’r enw Dylan ac mae gen i hoffter angerddol o fyfyrdod.

Catrin J

Marchnata a Chyfathrebu
Darganfod mwy

Catrin J

Marchnata a Chyfathrebu

Disgrifiad o’r rôl: Rwy’n cynorthwyo asiantaeth greadigol i wella proffil ein cwmni. Rwy’n darparu cynnwys diddorol ar gyfer ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan ac yn annog dysgwyr i gymryd rhan yn ein fforwm cymunedol.

Cyfnod gyda SSi: Rwy’n un o gyd-sefydlwyr SSi a threuliais rai blynyddoedd yn gwirfoddoli cyn ymuno’n swyddogol yn 2019

Ieithoedd: Cymraeg, Saesneg ac ychydig bach o Sbaeneg

Ffaith ddiddorol amdanaf: Rwy’n mwynhau’r her o greu celfyddyd gain a’r rhyddid wrth gerdded yn y bryniau. Gallaf sefyll ar fy mhen ac mi rydw i’n caru carioci. Roeddwn i’n arfer bod yn nani llawn amser i’r cyfoethog a’r enwog ac ar hyn o bryd rwy’n ysgrifennu fy ail nofel Gymraeg.

Catrin Rh

Rheolwr Swyddfa
Darganfod mwy

Catrin Rh

Rheolwr Swyddfa

Disgrifiad o’r rôl: Rwy’n rhedeg swyddfa SSi. Rwy’n datblygu ac yn gweithredu systemau gweinyddol newydd, yn gofalu am gleientiaid SSi ac yn prosesu anfonebau a chyflogau. Mae fy set sgiliau yn seiliedig ar weinyddu, felly rwy’n aml yn ymateb i ymholiadau, sy’n fy nghadw ar flaenau fy nhraed a gwneud fy swydd yn ddiddorol.

Cyfnod gyda SSi: Ers mis Gorffennaf 2021

Ieithoedd: Cymraeg a Saesneg

Ffaith ddiddorol amdanaf: Roeddwn yn rhan allweddol o sefydlu Clwb Rhwyfo ym Moelfre, Ynys Môn ac mae 48 o aelodau bellach! O ddydd i ddydd dwi’n gweithio o stiwdio recordio dwi’n ei rhannu gyda fy ngŵr sy’n gerddor!

Deborah M

Tiwtor a Rheolwr Cymorth Dysgu
Darganfod mwy

Deborah M

Tiwtor a Rheolwr Cymorth Dysgu

Disgrifiad o’r Rôl: Fy mhrif rôl yw rhoi cefnogaeth ddyddiol i ddysgwyr Cymraeg a Sbaeneg trwy e-bost, Slack – platfform Sgwrsio Cymunedol SSiW, a fforwm SSi, yn ogystal â helpu gyda phrofi deunydd cwrs newydd. Rwy’n arwain sesiynau Holi ac Ateb ar-lein sydd ar gael i unrhyw un o’n dysgwyr sydd wedi tanysgrifio i ymuno â nhw.

Cyfnod gyda SSi: Dechreuais ddysgu Cymraeg gyda SSiW yn 2009, a dechreuais wirfoddoli yn 2010, cyn dod yn rhan o’r tîm yn 2015.

Ieithoedd: Saesneg, Cymraeg, Esperanto, Sbaeneg, ychydig o Ffrangeg, Almaeneg a Japanaeg, a dwi’n dysgu Basgeg ar hyn o bryd

Ffaith ddiddorol amdanaf: Rydw i wedi bod yn grwydryn am y rhan fwyaf o fy oes – bum yn byw mewn 5 tŷ gwahanol a 2 wlad wahanol erbyn imi fod yn 5 mlwydd oed! Rwyf bellach yn byw yng Ngwlad y Basg, ac o ystyried faint o waith caled ac ymroddiad sydd ei angen i ddysgu Basgeg, nid wyf yn bwriadu i hynny fynd yn ofer trwy symud eto!

Dr Joanne P

Cadeirydd y Bwrdd
Darganfod mwy

Dr Joanne P

Cadeirydd y Bwrdd

Disgrifiad o’r rôl: Fi sy’n bennaf gyfrifol am arwain y bwrdd a chyfrannu at gynllunio strategol

Cyfnod gyda SSi: Rwyf wedi bod gyda’r cwmni ers haf 2021

Ieithoedd: Saesneg a Ffrangeg

Ffaith ddiddorol amdanaf: Mae gen i raddau cyntaf (BSc Cyd-Anrh Bioleg Celloedd Meddygol a Biocemeg) ac ail raddau (PhD, Adran Meddygaeth) o Brifysgol Lerpwl. Mae teithiau cerdded ym myd natur yn falm i’m henaid, yn enwedig yng Ngogledd Cymru, ac rwy’n mwynhau bodloni fy ochr greadigol trwy baentio darluniau.

Ivan B

Datblygwr a Gweinyddwr Systemau
Darganfod mwy

Ivan B

Datblygwr a Gweinyddwr Systemau

Disgrifiad o’r rôl: Dw i’n cynnal isadeiledd rhwydwaith a gweinyddion SSi, yn ysgrifennu meddalwedd cefn a blaen, ac yn darparu cymorth technegol ail-linell i ddysgwyr.

Cyfnod gyda SSi: Dechreuais ar ddiwedd 2013, ond cyn hynny roeddwn i wedi bod yn aelod o gymuned SSi ers mis Ionawr 2010.

Ieithoedd: Saesneg fel mamiaith, rhugl yn y Gymraeg a’r Ffrangeg, gallu cynnal sgwrs yn Almaeneg ac Esperanto, goddefol yn bennaf mewn Sbaeneg ac Eidaleg. Dw i wedi cynnal sgyrsiau sylfaenol iawn yn Swedeg a Manaweg yn y gorffennol, ond mae’n debyg na allwn i wneud hynny erbyn hyn. Dw i wedi potsian ychydig gyda Ffinneg, Siapaneg, Pwyleg a Mandarin, ond ni allwn i ffurfio brawddeg go iawn i achub fy mywyd.

Ffaith ddiddorol amdanaf: Dw i’n aml yn mwynhau dysgu am bethau trwy greu fy fersiynau fy hun ohonyn nhw.  Fel canlyniad, mae fy niddordebau yn cynnwys cyfansoddi cerddoriaeth, dylunio a gweithredu cyfrifiaduron retro, a dyfeisio ieithoedd artiffisial!

Kai S

Pennaeth Dysgu a Phrosiectau Arbennig
Darganfod mwy

Kai S

Pennaeth Dysgu a Phrosiectau Arbennig

Disgrifiad o’r rôl: Dwi’n gweithio gydag ysgolion, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a wahanol cwmnïau a sefydliadau i gynnig SSiW a gwella eu profiad dysgu. Fel rhan o’r gwaith dwi’n gweithredu fel rhyngwyneb rhwng defnyddwyr a Tech er mwyn caniatáu i bopeth rhedeg mor llyfn a greddfol â phosib. Dwi hefyd yn rhedeg sesiynau grŵp efo dysgwyr Cymraeg.

Amser gyda SSi: Bum yn gwirfoddoli gyda SSi ers 2017, gan gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o dasgau. Yn 2019 pan symudais i Gymru yn llawn amser, dechreuais gymryd rhan fwy blaengar gyda’r cwmni ac yn 2021 deuthum yn rhan o’r tîm yn swyddogol.

Ieithoedd: Cymraeg, Ffinneg, Saesneg ac Eidaleg. Rwyf hefyd wedi potsian gyda peth Swedeg, Sbaeneg a Mandarin.

Ffaith ddiddorol amdanaf: Roeddwn i wastad wedi bwriadu astudio mathemateg neu ffiseg yn y brifysgol, ond ar hap fe ddeuthum ar draws y Gymraeg a syrthio mewn cariad â hi. Yn fuan fe wnes i ymdrochi yn niwylliant Cymru a datblygu angerdd tuag at lenyddiaeth Gymraeg, felly fe newidiais fy meddwl ac yn y pen draw ymgeisio am gwrs gradd gwahanol.

Nick P

Cyfarwyddwr Anweithredol
Darganfod mwy

Nick P

Cyfarwyddwr Anweithredol

Disgrifiad o’r rôl: Rwy’n goruchwylio ein partneriaethau a gwaith marchnata.

Cyfnod gyda SSi: Ymunais yn swyddogol yn Haf 2021, ond cyn hynny cefais fy nghyflwyno i’r cwmni gan Global Welsh yn 2019 – yn anterth y pandemig Covid!

Ieithoedd: Saesneg a Ffrangeg a byddaf yn dechrau fy nghwrs SSiWelsh eleni!

Ffaith ddiddorol amdanaf: Fel rhywun sy’n wirion bost am chwaraeon rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i fynychu nifer o rowndiau terfynol Cwpan y Byd pêl-droed, rygbi a chriced – yn anffodus, serch hynny, nid oes yr un ohonynt wedi cynnwys tîm o Gymru! Ond pwy a ŵyr beth a ddaw yn y dyfodol.

Richard B

CTO
Darganfod mwy

Richard B

CTO

Disgrifiad o’r rôl: Dwi’n gwneud lleoliad mewn diwydiant am flwyddyn fel rhan o Feistr Gwyddoniaeth Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cyfnod gyda SSi: Nes i wibio trwy SSIW ar ddechrau 2018 pan o’n i’n gyrru yn y car. O’n i’n synnu’n fawr gan ba mor effeithiol oedd y dull.

Ieithoedd: Nes i dipyn o Ffrangeg yn yr ysgol a thipyn o Gymraeg hefyd. Penderfynais i sefyll yr arholiad Safon Uwch yn yr haf diwethaf (2022) ar ôl covid. Roedd yn hynod o ddiddorol i gymharu’r deunydd (a’r ffordd bod nhw’n addysgu) efo SSIW.

Ffaith ddiddorol amdanaf: Mae dau gi wedi’u hachub gyda fi sydd wrth eu boddau ar draeth Aberdyfi ac sydd yn dod i’r Brifysgol efo fi bob dydd. Ges i fy ngeni yn Aberhonddu. Roed fy nhad yn siaradwr Cymraeg Iaith Gyntaf ; gafodd o ei fagu yn Nhalsarnau rhwng Porthmadog a Harlech. Achos bod fy mam wedi dod o Lundain, roedd iaith yr aelwyd yn Saesneg, felly, yn anffodus, doedd fy nhad byth yn siarad Cymraeg efo fi.

Tom C

Pennaeth Addysg a Phrosiectau Arbennig
Darganfod mwy

Tom C

Pennaeth Addysg a Phrosiectau Arbennig

Disgrifiad o’r rôl: Rwy’n canolbwyntio ar gymhwyso’r fethodoleg SSI i ddysgu iaith mewn ysgolion, gan ddechrau gyda’r Gymraeg ar gyfer ysgolion cyfrwng Saesneg, a datblygu Saesneg ar gyfer ysgolion cyfrwng Tamil-, Sinhaleg- a Mandarin.

Cyfnod gyda SSi: Dechreuais greu rhaglenni SSi arbrofol yn 2016 gyda Portiwgaleg a Tsieinëeg. Ymunais â’r cwmni yn swyddogol ym mis Mai 2021.

Ieithoedd: Sbaeneg, tipyn go lew o Tsieinëeg a Ffrangeg ac rwy’n gweithio ar y Gymraeg, Portiwgaleg ac Almaeneg

Ffaith ddiddorol amdanaf: Mae gen i 8 o blant, rydw i’n chwarae piano jazz ac rydw i wedi ysgrifennu llyfrau ar ddatrys problemau sydd wedi’u cyhoeddi mewn 6 iaith.

Zola H

Gweithiwr Preswyl Marchnata
Darganfod mwy

Zola H

Gweithiwr Preswyl Marchnata

Disgrifiad o’r rôlD w i’n defnyddio fy sgiliau ymchwil i archwilio’r farchnad e-ddysgu ieithoedd gyfan

Amser gyda SSiRwy’n Jamaican ac yn fyfyriwr ôl-raddedig ym Mhrifysgol Bangor. Byddaf yn gweithio gyda SSi yn ystod Gorffennaf ac Awst 2023.

IeithoeddRwy’n siaradwr brodorol o Saesneg a Jamaica Patois (creole). Rwy’n siarad Sbaeneg canolradd ac ar hyn o bryd rwy’n ceisio dysgu Galiseg, Ffrangeg a Chymraeg.

Ffaith ddiddorol amdanafRwyf wrth fy modd â chacen lemwn ond dim ond ym mis Ebrill eleni y dysgais i bobi un!