Dull newydd o weithredu
Mae SaySomethingin wedi’i wreiddio mewn cariad dwfn at y Gymraeg ac angerdd brwd at ddysgu iaith.
Yn ôl yn 2008, dechreuodd Aran Jones (awdur y dull SaySomethingin) y gwaith o geisio creu dull newydd o ddysgu iaith yn seiliedig ar dri math gwahanol o brofiad ieithyddol. Bu’n athro Saesneg dramor (fel iaith gyntaf ac ail iaith) ac roedd wedi ceisio, ond wedi methu, dysgu’r ieithoedd lleol yn yr holl wledydd y bu’n byw a gweithio ynddynt. Yna gallodd ddysgu’r Gymraeg yn llwyddiannus.
Rydym bellach yn dîm o 13 o unigolion sy’n frwd am yr iaith gyda 5 cwrs iaith ar gael yn barod a 7 arall yn y broses o gael eu cynhyrchu.
Rydym wedi creu partneriaeth gyffrous gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, wedi gweithio ar brosiectau gydag S4C ac ar hyn o bryd yng nghanol prosiectau addysg peilot yng Nghymru a Sri Lanka.
Fel tîm gobeithiwn barhau i chwyldroi’r broses o ddysgu ieithoedd ar draws y byd oherwydd, fel y dywed y ddihareb Gymraeg:
‘Cenedl heb iaith, cenedl heb galon’