Croeso i SaySomethingin!
Rydyn ni’n dîm o bobl egnïol sy’n frwd dros addysg iaith, a sy’n gweithio gyda’n gilydd tuag at nod cyffredin – ceisio gwella addysg iaith ar raddfa genedlaethol a byd-eang, drwy ddefnyddio dull unigryw SaySomethingin.
Mae ein holl gyrsiau iaith yn defnyddio methodoleg SSi, sy’n seiliedig ar orfodi eich ymennydd i greu a chadw atgofion – dyma sy’n eich troi’n siaradwr naturiol – mae’n anodd ac yn heriol, ond mae’n gweithio!
Dull Arloesol profedig SaySomethingin
-
Mae ein haddysgu wedi’i seilio ar sefydlu ‘atgofion’ hirdymor
-
Atgofion am yr hyn rydyn ni’n ei alw’n ‘ymylon’, y bylchau rhwng geiriau – mae pob gair a ddysgwch yn cael ei ragflaenu a’i ddilyn gan wahanol ‘ymylon’
-
Po fwyaf o ‘ymylon’ y dewch i gysylltiad â nhw, y mwyaf medrus y byddwch wrth gynhyrchu brawddegau
-
Mae gwneud camgymeriadau yn hanfodol, gan ei fod yn cryfhau’r atgofion cysylltiedig trwy feithrin goddefgarwch at y camgymeriadau a wneir wrth sgwrsio
-
Mae pob un o’r uchod yn magu’r hyder i gynnal sgwrs. Ac felly, yn naturiol, byddwch yn cynnal mwy o sgyrsiau, a hynny yn ei dro yn eich gwneud yn rhugl yn gynt.